12 Mawrth 2024

Diweddariad: Rhaglen orfodi Ofcom i fethiant i weithredu One Touch Switch

Mae Ofcom heddiw wedi rhoi diweddariad ar ei rhaglen orfodi ynghylch methiant y diwydiant i lansio proses newid band eang symlach newydd erbyn y terfyn amser rheoleiddio, sef 3 Ebrill 2023.

Heddiw, cyhoeddodd The One Touch Switch Company (TOTSCo) ddyddiad lansio newydd ar draws y diwydiant ar gyfer y broses 'Newid Un Cam' (One Touch Switch - OTS) o 12 Medi 2024. Daw hyn yn sgil cyhoeddiad ym mis Rhagfyr nad oedd modd cyflawni ei ddyddiad targed o 14 Mawrth 2024 bellach.

Bryd hynny, ysgrifennodd Ofcom at BT, Sky, TalkTalk a VMO2 yn mynegi pryderon am yr oedi cyson, ac i’w gwneud yn ofynnol iddynt benderfynu ar ddyddiad lansio terfynol ar fyrder. Rydym wedi derbyn sicrwydd ysgrifenedig gan y pedwar darparwr hyn bod dyddiad lansio mis Medi yn gyraeddadwy. Byddwn yn defnyddio'r holl adnoddau a goruchwyliaeth angenrheidiol i ddwyn TOTSCo a'r diwydiant i gyfrif wrth gyflawni'r terfyn amser hwn.

Yn y pen draw mae'r oedi parhaus gan ddiwydiant wedi achosi i gwsmeriaid fod ar eu colled o ran manteision proses newid gyflymach a mwy effeithiol. Unwaith y bydd Newid Un Cam wedi lansio – ac yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd o dan ein rhaglen orfodi'r diwydiant – byddwn yn adolygu ymddygiad BT, Sky, TalkTalk a VMO2, yn ogystal ag unrhyw ddarparwyr eraill y teimlwn y dylid craffu arnynt ymhellach, i benderfynu a yw’n briodol agor ymchwiliadau i ddarparwyr unigol.

Related content