16 Ebrill 2024

Sicrhau bod sbectrwm mmWave ar gael – y diweddaraf ar ddyluniad yr arwerthiant

Heddiw mae Ofcom wedi darparu diweddariadau ynghylch sut y bydd yn darparu sbectrwm yn y bandiau 26 GHz a 40 GHz – a elwir yn sbectrwm tonnau milimetr (mmWave).

Gall y sbectrwm hwn gludo maint mawr o ddata ac mae ganddo'r potensial i wella cyflymderau symudol mewn ardaloedd prysur, fel gorsafoedd trên, stadia pêl-droed a lleoliadau cyngherddau. Gallai hefyd gefnogi gwasanaethau arloesol fel realiti rhithwir ac awtomeiddio ffatrïoedd.

Ym mis Tachwedd, fe wnaethom nodi’r rhan fwyaf o’r agweddau dylunio ar gyfer yr arwerthiant i ddyfarnu trwyddedau dinas gyfan yn y bandiau sbectrwm hyn. A ninnau wedi ystyried ymatebion i ymgynghoriad pellach a gyhoeddwyd gennym bryd hynny, heddiw rydym wedi penderfynu peidio â chynnwys cyfnod cyd-drafod yng ngham aseinio'r arwerthiant.

Heddiw hefyd, rydym yn ymgynghori ar Offerynnau Statudol sy'n angenrheidiol i redeg yr arwerthiant. Mae'r rhain yn ein galluogi i gyfyngu ar nifer y trwyddedau a chaniatáu i gynigwyr fasnachu trwyddedau unwaith y cânt eu cyhoeddi. Rydym yn gwahodd sylwadau ar yr Offerynnau Statudol arfaethedig erbyn 28 Mai 2024.

Yn olaf, rydym heddiw wedi cadarnhau addasiad i'r mynediad sbectrwm cydnabyddedig a ganiateir sy'n diogelu'r safle radioastronomeg yng Nghaergrawnt tra'n galluogi defnyddwyr eraill i ddefnyddio'r sbectrwm hwn; ac rydym wedi egluro sut y byddwn yn cydlynu rhwng enillwyr yr arwerthiant a chysylltiadau sefydlog presennol, yn ystod y cyfnod byr pan fydd gan y ddau fynediad i'r sbectrwm.

Related content