14 Rhagfyr 2023

Sut mae TikTok, Snap a Twitch yn amddiffyn plant rhag fideos niweidiol?

Mae adroddiad newydd gan Ofcom, a gyhoeddwyd heddiw, yn pwyso a mesur sut mae llwyfannau rhannu fideos poblogaidd yn amddiffyn plant rhag cyrchu fideos a allai fod yn niweidiol.

O dan y drefn llwyfannau rhannu fideos (VSP), rhaid i wasanaethau sydd wedi'u lleoli yn y DU roi mesurau ar waith i amddiffyn plant rhag dod ar draws fideos a allai amharu ar eu datblygiad corfforol, meddyliol neu foesol.

Gan ddefnyddio ein pwerau cywain gwybodaeth ffurfiol, rydym wedi edrych ar y camau sy'n cael eu cymryd gan TikTok, Snap a Twitch – tri o'r gwasanaethau rhannu fideos wedi'u rheoleiddio mwyaf poblogaidd i blant – i fodloni'r gofynion hyn. Gwnaethom weld bod y tri'n cymryd camau i atal plant rhag dod ar draws fideos niweidiol, fodd bynnag gall plant ddod ar draws niwed o hyd wrth ddefnyddio'r llwyfannau hyn.

Ein canfyddiadau

Mae ein hadroddiad yn nodi'r canlynol:

  • Mae TikTok, Twitch a Snap i gyd yn caniatáu i blant 13 oed a hŷn gofrestru. Maent yn dibynnu ar ddefnyddwyr i ddatgan eu gwir oedran wrth gofrestru. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n hawdd i ddefnyddwyr gael mynediad trwy nodi oedran ffug.
  • Mae pob un o'r tri'n gorfodi cyfyngiadau oedran gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i nodi cyfrifon dan oed posibl, gan gynnwys technolegau deallusrwydd artiffisial (AI) a chymedrolwyr dynol. Fodd bynnag, nid yw effeithiolrwydd y mesurau hyn wedi'i sefydlu eto. Mae'r adroddiad yn cynnwys y niferoedd o gyfrifon dan oed a ddilëwyd gan bob llwyfan.
  • Mae angen cyfrif ar ddefnyddwyr i gyrchu'r rhan fwyaf o gynnwys Snap neu TikTok. Mae Twitch, fodd bynnag, yn fynediad agored, sy'n golygu y gall unrhyw un o unrhyw oedran gyrchu'r rhan fwyaf o'i fideos, waeth p'un a oes ganddynt gyfrif ai beidio. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fideo lle mae label aeddfed wedi'i gymhwyso.
  • Mae'r tair llwyfan yn mabwysiadu gwahanol ddulliau o ddosbarthu a labelu cynnwys sy'n anaddas i'r rhai dan 18 oed. Mae TikTok yn dosbarthu cynnwys yn seiliedig ar rai themâu aeddfed, mae Snap yn graddio cynnwys ar Discover a Spotlight i sicrhau ei fod yn briodol i'r oedran, ac mae Twitch wedi cyflwyno labeli cynnwys manylach. Heb reolaethau mynediad a mesurau diogelwch cadarn cyfatebol, fodd bynnag, mae plant yn dal i fod mewn perygl o ddod ar draws cynnwys niweidiol. Er enghraifft, gall holl ddefnyddwyr Twitch - waeth p'un a ydynt wedi'u mewngofnodi ai beidio - weld cynnwys sy'n amhriodol i'w hoedran yn syml trwy ddiystyru'r label rhybudd.
  • Mae gan TikTok a Snap ill dau reolaethau rhieni sydd wedi'u dylunio i roi rhywfaint o oruchwyliaeth i rieni a gofalwyr o weithgarwch ar-lein eu plant. Mewn cyferbyniad, mae telerau ac amodau Twitch yn ei gwneud yn ofynnol i rieni oruchwylio plant mewn amser real wrth iddynt ddefnyddio'r gwasanaeth.

Mae amddiffyn plant – gan gynnwys sicrhau bod pobl ifanc dan 18 oed yn cael profiad ar-lein sy’n briodol i’w hoedran – yn ganolog i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Yn unol â gweithredu ein map ffordd, byddwn yn ymgynghori ar y mesurau diogelwch plant eang o dan y Ddeddf yn ystod gwanwyn 2024.

Disgwyliwn i bob gwasanaeth sydd wedi'i reoleiddio o dan y drefn VSP hefyd fod o fewn cwmpas y drefn diogelwch ar-lein. Fodd bynnag, dim ond ar ôl iddo gael ei ddirymu’n llawn gan Lywodraeth y DU y bydd yn rhaid i wasanaethau gydymffurfio â holl ddyletswyddau ehangach y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda VSPs wedi'u rheoleiddio i ysgogi gwelliannau diogelwch er budd eu defnyddwyr. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltiad goruchwyliol pwrpasol, adroddiadau tryloywder pellach, neu – lle bo’n briodol – cymryd camau gorfodi.

Ymchwiliad newydd i gydymffurfiaeth TikTok â chais am wybodaeth statudol

Mae’n hanfodol bod Ofcom yn gallu cywain gwybodaeth gywir am fesurau a roddwyd ar waith gan VSPs sydd wedi'u rheoleiddio er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys deall systemau, megis rheolaethau rhieni, i helpu sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag deunydd cyfyngedig.

Rydym yn defnyddio gwybodaeth o'r fath i fonitro'r mesurau y mae llwyfannau'n eu cymryd, asesu cydymffurfiaeth, a chyhoeddi adroddiadau cyhoeddus.

Fe wnaethom geisio gwybodaeth gan TikTok am ei system rheolaethau rhieni, Family Pairing, ac mae gennym reswm dros gredu bod yr wybodaeth a ddarparwyd ganddo'n anghywir.

Heddiw felly, rydym hefyd yn agor ymchwiliad i weld a yw TikTok wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddarparu gwybodaeth wrth ymateb i gais ffurfiol am wybodaeth, yn y fath fodd a bennir gan Ofcom.

Disgwyliwn roi diweddariad ar yr ymchwiliad hwn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Beth i'w wneud os byddwn yn gofyn am wybodaeth gennych

I gyfeirio ein gwaith fel rheoleiddiwr, rydym weithiau'n defnyddio ein pwerau ffurfiol i ofyn am wybodaeth gan unigolion a busnesau. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn disgwyl derbyn gwybodaeth glir, cyflawn a chywir.

Os byddwch yn derbyn cais gennym, dyma'r hyn y mae angen i chi ei wneud.

Related content