20 Gorffennaf 2023

Rhybuddion crwydro symudol newydd i'r rhai sy'n mynd dramor o'r DU

  • Ymchwil newydd yn datgelu nad yw bron i 1 o bob 5 o bobl ar eu gwyliau yn ymwybodol o gostau crwydro wrth deithio
  • Ofcom yn cynnig rheolau newydd i ddiogelu cwsmeriaid y DU rhag taliadau annisgwyliedig a 'chrwydro anfwriadol’ 

Bydd yn rhaid rhoi gwybod i gwsmeriaid symudol y DU am unrhyw gostau crwydro sy'n berthnasol wrth deithio dramor, o dan reolau newydd a gynigir gan Ofcom heddiw.

Yn dilyn ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, nid yw rheolau 'crwydro fel gartref' yr UE - a chyfraith y DU sy'n mynnu bod gweithredwyr symudol yn rhybuddio cwsmeriaid am gostau crwydro pan fyddant yn dechrau crwydro - yn berthnasol bellach. Erbyn hyn mae rhai darparwyr yn codi tua £2 y dydd i gwsmeriaid wneud neu dderbyn galwadau, anfon negeseuon testun neu fynd ar-lein wrth deithio.

Felly, mae Ofcom wedi bod yn ystyried a ddylid cyflwyno mesurau diogelu crwydro newydd ar gyfer defnyddwyr a busnesau bach ar ffurf rhybuddion. Er bod llawer o gwmnïau wedi parhau i anfon rhybuddion i'w cwsmeriaid yn wirfoddol pan fyddant yn dechrau crwydro, mae ein hadolygiad wedi datgelu pryderon y gall yr wybodaeth a ddarperir fod yn anghyson ac yn aneglur.

Ein canfyddiadau

Canfu ein hymchwil nad yw bron i 1 o bob 5 person ar eu gwyliau (19%) yn ymwybodol y gallent wynebu taliadau ychwanegol wrth ddefnyddio eu ffôn symudol dramor a dywedodd cyfran debyg (18%) nad ydyn nhw'n ymchwilio i gostau crwydro cyn teithio.[1]

Mae nifer o bobl yn dibynnu ar rybuddion am grwydro - mae 94% o deithwyr yn ymwybodol ohonynt ac mae dros wyth o bob deg (84%) yn eu darllen. O'r rhai sy'n darllen eu rhybuddion, mae 94% yn eu hystyried naill ai'n hanfodol neu'n ddefnyddiol pan fyddant yn dechrau crwydro am y tro cyntaf ac mae 72% yn addasu eu hymddygiad pan fyddant yn gweld un - fel cysylltu â Wi-Fi (29%), defnyddio llai o ddata (26%) a diffodd data crwydro (24%).

Cynghorion gwych i osgoi bil crwydro symudol mawr

Gyda miliynau o bobl ar fin hedfan i ffwrdd ar eu gwyliau haf dros yr wythnosau i ddod, mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi cynghorion gwych ar yr hyn y gallwch ei wneud i osgoi cronni bil crwydro symudol mawr ar eich teithiau yr haf yma.

Rhybuddion crwydro gorfodol

Er mwyn sicrhau bod gan bobl yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd ei hangen arnynt, mae Ofcom yn cynnig rheolau a chanllawiau newydd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni symudol yn y DU ddweud wrth eu cwsmeriaid faint y bydd yn ei gostio iddynt ac unrhyw gamau y gallant eu cymryd i gyfyngu ar eu gwariant pan fyddant yn dechrau crwydro.[2]

O dan y cynigion hyn, byddai cwsmeriaid symudol yn cael rhybuddion personol gan gynnwys manylion am:

  • Daliadau crwydro a fydd yn berthnasol gan gynnwys pennu unrhyw derfynau data defnydd teg a'r cyfnod amser sy'n berthnasol i unrhyw daliadau dyddiol.
  • Unrhyw gyfyngiad y mae cwsmer wedi'i roi ar fil symudol.
  • Ble i ddod o hyd i fanylion ychwanegol am ddim ynghylch costau crwydro, polisïau defnydd teg a sut i fonitro, lleihau a chyfyngu ar wariant.
Llun o rywun yn dal ffôn. Ar sgrîn y ff6on mae cyfarwyddiadau gan ddarparwr rhwydwaith yn esbonio faint fydd yn costio i wneud galwad, anfon neges destun neu ddefnyddio data

"Mae miliynau o bobl yn y DU yn mynd dramor bob blwyddyn ar eu gwyliau ac eisiau cadw mewn cysylltiad wrth iddynt deithio. Ond heb wybodaeth glir gan eu darparwr, gallent fod yn wynebu bil annisgwyliedig am alw adref neu fynd ar-lein.

“Byddai'r rhybuddion hyn yn golygu, pa bynnag ddarparwr symudol rydych chi'n ei ddefnyddio, y byddwch yn cael gwybod am daliadau crwydro a'r camau y gallwch eu cymryd i reoli'ch gwariant."

Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Telathrebu Ofcom

Mesurau diogelu rhag crwydro anfwriadol

Crwydro anfwriadol yw pan fydd dyfais yn cysylltu â rhwydwaith mewn gwlad wahanol er nad yw'r cwsmer yn gorfforol yn y wlad honno. Dengys ein hymchwil fod un o bob saith o gwsmeriaid symudol yn y DU (14%) yn profi hyn pan fyddant dramor neu'n dal yn y DU, gan gynnwys 2% o gwsmeriaid sy'n cysylltu â rhwydweithiau yn Ffrainc o arfordir Lloegr.

Fodd bynnag, mae hyn yn broblem yn benodol i bobl yng Ngogledd Iwerddon, gyda miloedd lawer o bobl yn byw mewn ardaloedd sy'n rhannu'r ffin ag Iwerddon. Dengys ymchwil i 22% o gwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon brofi crwydro anfwriadol ar rwydweithiau Iwerddon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.[3]

Nid yw

18%

o'r rhai sy'n mynd ar wyliau'n gwirio taliadau symudol cyn teithio tramor

Er y byddai rhybuddion yn rhoi gwybod i gwsmeriaid eu bod yn crwydro, rydym  hefyd yn cynnig mesurau diogelu ychwanegol yn erbyn effaith crwydro anfwriadol. Byddai'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr symudol:

  • ddarparu gwybodaeth glir i gwsmeriaid am sut i osgoi crwydro anfwriadol, yn y DU a thramor; a
  • rhoi mesurau ar waith i alluogi cwsmeriaid i leihau a/neu gyfyngu ar eu gwariant ar grwydro pan fyddant yn y DU. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallai'r mesurau hyn gynnwys cynnig tariffau arbennig neu drin defnydd symudol yn Iwerddon fel yr un peth â bod yn y DU. Mae rhai darparwyr eisoes yn gwneud hyn.

Y camau nesaf

Rydym yn gwahodd ymatebion i'n hymgynghoriad erbyn 28 Medi 2023 ac yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad terfynol yn gynnar yn 2024.

Oherwydd y bu'n ofynnol yn flaenorol i ddarparwyr anfon rhybuddion crwydro a bod llawer yn gwneud hynny'n wirfoddol ar hyn o bryd, mae ganddynt systemau a phrosesau eisoes ar waith i'w hanfon. Er hynny, mae'n bosib y bydd angen i ddarparwyr wneud rhai newidiadau. Felly, rydym yn cynnig cyfnod gweithredu o chwe mis o'r adeg y byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad.

Nodiadau i olygyddion

  1. Cynhaliodd Yonder arolwg omnibws ar-lein (PDF, 1.6 MB) ym mis Tachwedd 2022. Roedd y sampl yn cynnwys 2,108 o oedolion 16+ oed a oedd yn gwsmeriaid symudol yn y DU ac a bwysolwyd i fod yn gynrychioliadol o'r DU yn genedlaethol.
  2. Nid oes gan Ofcom y pŵer i atal darparwyr symudol rhag codi taliadau ar gwsmeriaid am ddefnyddio eu gwasanaethau wrth deithio, felly nid yw'r gwaith hwn yn mynd ar drywydd rheoleiddio lefelau prisiau crwydro.
  3. Ymchwil a gomisiynwyd gan Gyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon, gyda maint sampl o 1,000, a ddarparodd wybodaeth am brofiadau penodol cwsmeriaid symudol yng Ngogledd Iwerddon.

Related content