20 Rhagfyr 2021

Edrych yn ôl ar waith Ofcom yn 2021

Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn nodedig arall ledled y byd, ac nid yw wedi bod yn wahanol yn Ofcom. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed eleni i ddiogelu pobl, eu helpu i gael bargeinion gwell, a sicrhau bod ein hymchwil yn rhoi'r ddealltwriaeth i ni i'n helpu i wneud y gwaith gorau posibl, gan gadw llygad ar safonau ar draws y teledu a'r radio.

Ac wrth edrych i'r dyfodol, rydym wedi tyfu ein sgiliau a'n galluoedd mewn meysydd fel diogelwch telathrebu a diogelwch ar-lein, wrth i ni baratoi i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros helpu pobl i fyw bywyd mwy diogel ar-lein. Rydym hefyd wedi agor ein swyddfa ym Manceinion, a fydd yn sylfaen i lawer o'r rolau digidol a thechnoleg hyn.

Am y tro, dyma olwg yn ôl ar rywfaint o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, gan roi syniad i chi o ehangder y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud.

Ionawr – taflu goleuni ar dechnoleg yfory

Gwnaethom gyhoeddi Dyfodol Technoleg, adroddiad yn edrych ar rai o'r technolegau sy'n dod i'r amlwg a allai lywio'r ffordd yr ydym yn byw, yn cyfathrebu ac yn diddanu ein hunain yn y dyfodol. Mae cynnal ymwybyddiaeth o dechnoleg newydd a'r effeithiau y gallai eu cael ar wasanaethau cyfathrebu yn ein helpu i sicrhau bod pawb yn manteisio i'r eithaf ar y gwasanaethau hyn, yn ogystal â'n helpu i'w diogelu rhag unrhyw risgiau a allai godi.

Chwefror - Dirwy o £10.5m i O2 am godi gormod ar gwsmeriaid

Fe wnaethom roi dirwy o £10.5m i O2 ar ôl i wallau bilio olygu bod y cwmni ffonau symudol wedi codi gormod ar gwsmeriaid symudol wnaeth ei adael. Pan fydd cwsmer yn gadael darparwr symudol, mae'r cwmni'n darparu bil terfynol sy'n nodi unrhyw ffioedd a thaliadau sy'n weddill y mae'n rhaid i'r cwsmer eu talu cyn i'w gyfrif gau. Rhwng o leiaf 2011 a 2019, roedd camgymeriad yn systemau O2 yn golygu bod llawer o bobl yn cael eu bilio am rai taliadau ddwywaith. Cafodd dros 250,000 o gwsmeriaid eu bilio'n anghywir, sef cyfanswm o £40.7m o or-daliadau. Talodd tua 140,000 o gwsmeriaid y taliadau ychwanegol, gan dalu cyfanswm o £2.4m. Trosglwyddwyd yr arian a godwyd o ddirwy O2 i Drysorlys EM.

Mawrth – Cynyddu darpariaeth band eang ffeibr llawn

Gwnaethom gadarnhau sut y byddwn yn rheoleiddio'r marchnadoedd telathrebu cyfanwerthu a ddefnyddir i ddarparu cysylltiadau band eang, symudol a busnes yn y DU, am y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Bydd hyn yn cefnogi buddsoddiad mewn band eang cyflymach gan amrywiaeth o gwmnïau sy'n cystadlu - gan helpu i lywio dyfodol ffeibr llawn y DU. Mae ein hystadegau diweddar yn dangos y gall tua wyth miliwn o gartrefi yn y DU bellach gael band eang ffeibr llawn, ac mae argaeledd yn cynyddu'n gyflymach nag erioed.

Ebrill – Y gagendor digidol yn lleihau yn ystod y cyfnod clo

Cyhoeddwyd ein hymchwil llythrennedd diweddaraf yn y cyfryngau, sy'n awgrymu bod gagendor digidol y DU wedi lleihau yn ystod pandemig y coronafeirws. Dangosodd ein hymchwil fod cyfran y cartrefi heb fynediad i'r rhyngrwyd wedi gostwng o 11% i 6% o gartrefi o flwyddyn i flwyddyn. Gwelsom hefyd fod oedolion sydd â sgiliau digidol cyfyngedig o'r blaen wedi croesawu siopa ar-lein, bancio digidol a ffrindiau a theulu galw fideo – tra bod pobl iau yn gweithredu fel cymorth TG, gan helpu ffrindiau a pherthnasau hŷn neu lai hyderus yn ddigidol i gysylltu.

Mai – Cyhoeddi'r Mesur Diogelwch Ar-lein

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Mesur Diogelwch Ar-lein, gan gynnig cyfrifoldebau newydd i Ofcom sy'n ceisio helpu i gadw pobl yn ddiogel ar-lein. O dan y mesur, rhaid i wasanaethau chwilio, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a gwasanaethau ar-lein eraill sy'n galluogi rhannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr rhwng defnyddwyr, liniaru'r risg o niwed sy'n deillio o gynnwys anghyfreithlon. Drwy leihau lledaeniad cynnwys o'r fath, er enghraifft. Mae gan Ofcom eisoes brofiad o fynd i'r afael â chynnwys niweidiol a diogelu rhyddid mynegiant, drwy ein rôl yn rheoleiddio rhaglenni teledu a radio. Ni hefyd yw'r rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos a sefydlwyd yn y DU. Mae disgwyl i'r mesur ddod i rym yn Senedd y DU yn 2022.

Mehefin – Argymhellion ar gyfer cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus yn yr oes ddigidol

Ym mis Mehefin, gwnaethom argymell ailwampio cyfreithiau i sicrhau bod cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus yn goroesi ac yn ffynnu yn yr oes ddigidol. Roedd ein hargymhellion i Lywodraeth y DU yn nodi casgliad Sgrin Fach:Trafodaeth Fawr– adolygiad manwl ar ddyfodol cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus. Roedd ein hadolygiad yn ei gwneud yn glir bod rhaglennu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael ei werthfawrogi'n fawr gan gynulleidfaoedd y DU, a dim ond atgyfnerthu hyn a wnaeth y pandemig. Ond gwelsom hefyd fod yn rhaid i ddarlledwyr gyflymu eu cynlluniau digidol er mwyn cynnal cysylltiad cryf â chynulleidfaoedd, ac mae angen diweddaru'r system reoleiddio hefyd.

Gorffennaf – Ymchwiliad Ofcom yn helpu i euogfarnu galwr gwylwyr y glannau ffug

Gwnaethom chwarae rhan allweddol mewn ymchwiliad a arweiniodd at ddyfarnu dyn yn euog am wneud galwadau brys ffug i wylwyr y glannau. Fe wnaeth y dyn 19 o alwadau ffug rhwng Mehefin ac Awst 2019, gan honni ar gam bod angen achub pobl neu longau yn y môr - gan arwain at ddeg galwad yr amcangyfrifwyd eu bod wedi costio cyfanswm o tua £170,000. Roedd tystiolaeth a gasglwyd gan ein peirianwyr sbectrwm yn galluogi Heddlu'r Alban i ganolbwyntio eu hymchwiliadau mewn ardal benodol, gan helpu i ddod o hyd i’r troseddwr. Mae ein tîm sbectrwm yn gwneud gwaith hanfodol wrth fynd i'r afael ag ymyriant a chamddefnyddio'r tonnau awyr a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu.

Awst – Oedolion y DU yn treulio traean o 2020 yn gwylio teledu a fideo

Cyhoeddwyd ein hastudiaeth flynyddol o arferion cyfryngau'r DU, sy'n dangos bod oedolion yn y DU wedi troi at sgriniau a ffrydio yn 2020, gan dreulio traean o'u hamser yn gwylio'r teledu a fideo ar-lein. Gyda phobl ar draws y DU o dan ryw fath o gyfyngiadau cloi am ran helaeth o'r flwyddyn flaenorol, treuliwyd dros 2,000 o oriau yn gwylio'r teledu a fideo ar-lein. Mae hynny'n gyfartaledd dyddiol o bum awr a 40 munud – 47 munud yn fwy nag yn 2019. Cafodd y newid ei lywio’n bennaf gan bobl yn treulio bron ddwywaith cymaint o amser yn gwylio gwasanaethau ffrydio a danysgrifiwyd iddynt fel Netflix, Amazon Prime Video a Disney+.

Medi – Ei gwneud yn haws nag erioed i newid darparwr

Gwnaethom gyhoeddi proses newid newydd a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach nag erioed i newid eich band eang neu ddarparwr ffôn cartref. O dan y broses ‘Newid un Cam’, dim ond cysylltu â'ch darparwr band eang cartref newydd i newid y bydd angen i chi ei wneud, heb orfod siarad â'ch darparwr presennol cyn symud. Bydd hyn yn berthnasol i bob defnyddiwr band eang cartref, gan gynnwys cwsmeriaid cebl a ffeibr llawn. Mae hyn yn golygu y gallwch newid rhwng gwahanol rwydweithiau neu dechnolegau – er enghraifft, gan ddarparwr sy'n defnyddio'r rhwydwaith Openreach i un sy’n defnyddio CityFibre, neu o Virgin Media i Hyperoptic.

Hydref - 45 miliwn o bobl wedi'u targedu gan alwadau a negeseuon testun sgam

Canfu ein hymchwil fod bron i 45 miliwn o bobl wedi derbyn negeseuon neu alwadau sgam posibl dros gyfnod o dri mis. Dywedodd dros wyth o bob 10 o bobl eu bod wedi derbyn neges amheus, naill ai ar ffurf neges destun, neges wedi'i recordio neu alwad ffôn byw i linell dir neu ffôn symudol. Amcangyfrifir bod hyn yn cynrychioli 44.6 miliwn o oedolion yn y DU. Rydym yn annog pobl i dynnu sylw at negeseuon testun amheus i'r gwasanaeth 7726 a roi gwybod am alwadau i Action Fraud.

Tachwedd – Diogelu miloedd o flychau ffôn

Bydd miloedd o flychau ffôn hanfodol ar draws y DU yn cael eu diogelu rhag gael eu cau, o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd. Fel rhan o symud i linellau ffôn digidol, sy’n golygu y bydd angen buddsoddi i uwchraddio blychau ffôn, mae BT ar hyn o bryd yn asesu pa rai ohonynt nad oes eu hangen mwyach ac a all gael eu datgomisiynu. Ond o dan y broses bresennol ar gyfer dileu ffonau talu, mae risg y bydd rhai sydd eu hangen ar gymunedau lleol yn cael eu tynnu ymaith. Felly gwnaethom gynnig rheolau cliriach a chryfach i ddiogelu blychau ffôn sydd eu hangen rhag cael eu tynnu ymaith.

Rhagfyr - Mesurau diogelu cryfach ar gyfer cwsmeriaid parseli

Gwnaethom gynnig fesurau diogelu newydd i sicrhau bod cwmnïau'n darparu triniaeth decach i bobl sy'n anfon ac yn derbyn parseli yn y DU. Mae mwy na deng miliwn o barseli yn cael eu dosbarthu ar ddiwrnod arferol yn y DU. Nid oes unrhyw broblem gyda’r rhan fwyaf o ddanfoniadau, ac mae boddhad cwsmeriaid yn uchel yn gyffredinol. Ond pan aiff pethau o chwith, mae cwsmeriaid yn aml yn wynebu problemau. Felly, rydym wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer gwella'r ffordd y mae cwmnïau cyflenwi yn ymdrin â chwynion, a rheolau newydd i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu trin yn deg gan gwmnïau post.

Cynnwys cysylltiedig