6 Chwefror 2024

Pam rydyn ni'n cefnogi Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2024

Heddiw yw'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, diwrnod pwysig yn y calendr ar gyfer tynnu sylw at ddiogelwch ar-lein.

Mae Ofcom ers tro wedi cefnogi'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, menter fyd-eang sy’n edrych ar sut y gallwn sicrhau rhyngrwyd mwy diogel a gwell i bawb, ac yn enwedig i blant a phobl ifanc. Eleni mae'n bwysicach nag erioed i ddangos ein cefnogaeth, gan fod Ofcom nawr yn gweithio i helpu pawb i fyw bywyd mwy diogel ar-lein.

Wedi'i arwain yn y DU gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, y thema eleni ywYsbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, Rheoli Dylanwad a Llywio Newid Ar-lein. Mae’r diwrnod yn canolbwyntio ar newid ar-lein, ac yn cwmpasu:

  • safbwyntiau pobl ifanc ar dechnoleg newydd a datblygol;
  • defnyddio'r rhyngrwyd i wneud newid er gwell;
  • y newidiadau y mae pobl ifanc am eu gweld ar-lein; a'r
  • pethau a all ddylanwadu a newid y ffordd y mae pobl ifanc yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu ar-lein ac oddi ar-lein.

Gill Whitehead yw cyfarwyddwr grŵp Ofcom ar gyfer diogelwch ar-lein. Gan bwysleisio ein cefnogaeth i'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, dywedodd: “Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, rydym yn gweithio i sicrhau y bydd pob diwrnod yn ddiwrnod rhyngrwyd mwy diogel i blant a phobl ifanc. Ein gwaith ni yw dal cwmnïau technoleg i gyfrif am gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol newydd i amddiffyn plant ar-lein yn well.

"Heddiw, rydym yn falch o gefnogi'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, gan sefyll gyda channoedd o sefydliadau, ysgolion, grwpiau ieuenctid, rhieni a gofalwyr i helpu ein plant i lywio’r byd ar-lein yn fwy diogel.”

Rôl Ofcom mewn diogelwch ar-lein

Cymeradwywyd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ffurfiol ym mis Tachwedd 2023 ac ni wastraffwyd unrhyw amser yn cychwyn ar ein rôl newydd – gan fynd ati drwy gyhoeddi ein cynigion cyntaf ar y camau gweithredu y gall cwmnïau technoleg eu cymryd.

Rydym yn ymgynghori ar y cynigion hyn, sy'n edrych ar sut y bydd gwasanaethau ar-lein yn cael y dasg o amddiffyn eu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon fel deunydd cam-drin plant yn rhywiol, meithrin perthynas amhriodol a thwyll.

Dyma’r cyntaf o bedwar ymgynghoriad mawr y byddwn yn eu cyhoeddi fel rhan o’n gwaith diogelwch ar-lein. Bydd y rhain yn helpu siapio'r offer y bydd gennym i sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn dilyn y rheolau.

Yn hollbwysig, mae ein pwerau’n canolbwyntio ar orfodi cwmnïau technoleg i weithredu – gan wella’r systemau a’r prosesau sydd ganddynt ar waith i amddiffyn pobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Ni fyddwn yn mynnu i wasanaethau ar-lein ddileu cynnwys neu gyfrifon penodol.

Diogelwch plant ar-lein yw'r flaenoriaeth

Cadw plant yn ddiogel ar-lein yw ein blaenoriaeth bennaf fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU. Mae'n rhan ganolog o'r drefn diogelwch ar-lein ehangach, gydag amrywiaeth o waith eisoes yn digwydd i helpu gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant.

Yn Ofcom rydyn ni’n gweithio’n galed i ddeall sut mae plant yn treulio eu hamser ar-lein. Yn y 12 mis diwethaf rydym wedi clywed gan dros 12,000 o blant a thros 7,000 o rieni - maent wedi dweud wrthym am eu hamser ar-lein, eu hagweddau a'u profiadau o niwed ar-lein.

Rydym hefyd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc - erbyn diwedd mis Mawrth byddwn wedi hyfforddi 1,250 o athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl plant a darparwyr gofal cymdeithasol i gefnogi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar gyfer y plant y maent yn gweithio gyda nhw.

Ac fe wnaeth ein gwaith ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ennill Gwobr Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau Byd-eang UNESCO i ni yn 2023. Roedd y gwaith uchel ei glod yn ymwneud â chomisiynu 13 o sefydliadau i redeg mentrau i wella gwybodaeth a sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, yr oedd rhan ohono wedi’i anelu at blant 10 i 14 oed.

Rydym yn gweithio gyda chymheiriaid byd-eang i helpu cyflawni hyn – er enghraifft fel rhan o’r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang, sy’n dod â rheoleiddwyr o bob cwr o’r byd at ei gilydd i sicrhau ymagwedd gyson ar draws ein gwaith. Rydym hefyd yn rhan o'r Gweithgor Rhyngwladol ar Wirio Oedran, sydd â'r nod o sicrhau bod gan lwyfannau rhannu fideos (VSPs) reolaethau mynediad cadarn i amddiffyn plant rhag cyrchu cynnwys fideo niweidiol ar eu gwasanaethau.

Rydym hefyd wedi cynnig arweiniad gwirio oedran newydd a fyddai’n helpu amddiffyn plant rhag cyrchu pornograffi ar-lein.

Ac mae clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am sut maent yn teimlo am fod ar-lein yn hollbwysig i'n gwaith. Rydym yn gwneud ymchwil yn rheolaidd i edrych ar wahanol agweddau ar brofiadau plant ar-lein, sy'n helpu i lywio ein gwaith ym maes diogelwch ar-lein.

Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn archwilio pa mor hawdd yw hi i bobl, gan gynnwys plant, faglu ar draws cynnwys niweidiol ar-lein. Mae data o'r adroddiad, a gyflawnwyd gan National Contagion Research Institute yn datgelu bod bron i chwarter y chwiliadau gwe wedi arwain at ganlyniadau â chynnwys sy'n ymwneud â hunanladdiad a hunan-niwed.

Y gwanwyn hwn, byddwn yn cyhoeddi ein codau ymarfer drafft ar gyfer y camau y gallai gwasanaethau ar-lein eu cymryd i amddiffyn plant ar-lein. Wrth i ni barhau i ddatblygu ein gwaith ar hyn, bydd barn a phrofiadau plant yn hanfodol i sicrhau ein bod yn pennu mesurau sy’n cael effaith bwrpasol ac yn adlewyrchu’r ffordd wirioneddol y mae pobl ifanc yn byw eu bywydau ar-lein.

Related content