Ailwampio ein prosesau cywain data – yr hyn y mae angen i chi ei wybod

02 Tachwedd 2022

Mae un nod trosgynnol i waith Ofcom mewn perthynas â thegwch, amrywiaeth a chynhwysiad ('EDI') mewn darlledu: hyrwyddo sector darlledu amrywiol a chynhwysol sy'n rhoi cyfle cyfartal i bawb sydd eisiau gweithio yn y diwydiant.

Rydym yn cywain gwybodaeth gan ddarlledwyr i sicrhau eu bod yn hyrwyddo cyfle cyfartal yn unol â dyletswyddau cyfreithiol ac amodau'r drwydded berthnasol.

Pam rydym wedi penderfynu ailwampio ein prosesau cywain data

Ym mis Medi 2021 bu i ni gyhoeddi ein hadolygiad pum mlynedd (PDF, 2.6 MB) o amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal mewn darlledu yn y DU. Cynigiodd yr adolygiad fewnwelediad gwerthfawr tu hwnt i'r cynnydd a wnaed gan ddarlledwyr yn ystod cyfnod sydd wedi gweld newidiadau helaeth yn y ffordd y mae cymdeithas yn meddwl am EDI.

Yn sgil yr adolygiad hwn bu i ni ymrwymo i werthuso'r data a gasglwn gan ddarlledwyr a sut rydym yn mynd ati. Rydym am sicrhau ein bod ni'n adlewyrchu newidiadau ehangach mewn cymdeithas ac yn mireinio'r wybodaeth a gasglwn, er mwyn helpu darlledwyr i ymwreiddio EDI ar bob lefel o'u sefydliadau ac i gefnogi sector darlledu amrywiol a deinamig.

Rydym wedi penderfynu:

Y pecyn cymorth tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad newydd

Yr offeryn cywain data ansoddol newydd

Dyluniwyd hyn ar y cyd â Radius Networks, a gomisiynwyd gennym i ddatblygu ymagwedd 'model aeddfedrwydd' at gywain data'r gweithlu ansoddol.

Mae gan y model aeddfedrwydd nifer o nodau allweddol:

  • gyrru a monitro gwelliannau i amrywiaeth a chynhwysiad y gweithlu;
  • deall blaenoriaethau EDI newidiol y sector darlledu;
  • a chefnogi dysgu, gwerthuso, a chydweithio o fewn y sector.

Mae'n ymagwedd fwy tryloyw at olrhain cynnydd darlledwyr unigol a'r diwydiant dros gyfnod estynedig. Gall y canlyniadau gael eu defnyddio gan ddarlledwyr i gyfeirio a datblygu eu mentrau EDI eu hunain. Fe gaiff ei ddefnyddio hefyd i'n helpu i asesu a yw darlledwyr yn bodloni amodau eu trwydded.

I ddechrau, byddwn yn treialu hwn fel fersiwn 'beta', gyda lle i wneud newidiadau ar ôl y flwyddyn gyntaf o ddefnydd. Bydd gwneud hyn yn ein galluogi i fonitro pa mor hwylus y mae i'w ddefnyddio'n fanwl a deall beth sy'n gweithio'n dda, yr effaith sydd gan y model ac yn bwysicach fyth, sut y gallwn wella ein prosesau cywain data ansoddol yn barhaus.

Manylion am yr offeryn cywain data meintiol

Ym mis Ebrill 2022, fe wnaethom gyhoeddi Cais am Fewnbwn ar ddiweddaru prosesau cywain data gweithlu Ofcom, a fu'n canolbwyntio ar adrannau meintiol ein holiadur.

Mae ein canfyddiadau o'r cais am fewnbwn, ynghyd â'n Hadolygiad pum mlynedd ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid y diwydiant, wedi ein harwain i wneud sawl newid (PDF, 434.8 KB) i'r ffordd yr ydym yn gofyn am wybodaeth.

Mae ein holiadur gweithlu yn cynnwys diweddariadau ar:

  • hunaniaeth o ran rhyw a rhywedd;
  • tueddfryd rhywiol;
  • anableddau;
  • cefndir economaidd-gymdeithasol;
  • rheolaeth; a
  • grwpiau rôl swyddi.

Mae newidiadau i'r adrannau hyn yn diwygio ac yn ehangu'r rhestr o opsiynau ateb sydd ar gael, gan ddiweddaru'r iaith a'r derminoleg a ddefnyddiwn i sicrhau bod y cwestiynau'n cael eu gofyn mewn ffordd gynhwysol y gellir ei chymharu â data poblogaeth oedran gweithio yn y DU.

Rydym hefyd wedi ehangu holiadur y gweithlu i gynnwys ceisiadau ychwanegol am wybodaeth ar sail wirfoddol. Mae'r rhain yn cynnwys cwestiynau ynglŷn â:

  • chyfrifoldebau gofalu;
  • data amrywiaeth fesul cenedl a rhanbarth; a
  • data croestoriadol eraill.

Fel rhan o'n hadolygiad, rydym hefyd wedi ystyried sut y gallwn ymgorffori dull mwy hawdd ei ddefnyddio o gywain data meintiol. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd darlledwyr yn gallu cyflwyno data eu gweithlu i Ofcom trwy offeryn arolwg ar-lein.

Arweiniad wedi'i ddiweddaru Ofcom ar gyfer darlledwyr

Mae'r arweiniad rydym wedi'i gyhoeddi'n rhoi argymhellion i ddarlledwyr ar sut y dylent ddatblygu a gweithredu trefniadau cysylltiedig â EDI er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal o fewn eu sefydliadau. Fel rhan o'u hamodau trwydded, mae'n rhaid i ddarlledwyr roi sylw i hyn wrth ddyfeisio a gweithredu eu strategaethau EDI.

Rydym wedi diweddaru ein Harweiniad er mwyn rhoi pwyslais ychwanegol ar bwysigrwydd creu gweithle mwy cynhwysol, gan roi cyngor mwy cynhwysfawr i ddarlledwyr ar y mesurau yr hoffem eu gweld yn cael eu rhoi ar waith.

Archwiliwch yr offer cywain data newydd gyda ni

Wrth i ni weithredu'r pecyn cymorth EDI newydd, byddwn yn cydweithio'n agos â darlledwyr er mwyn i ni asesu'r hyn sy'n gweithio'n dda a nodi lle y gellir gwneud gwelliannau.

Byddwn ni hefyd yn cynnal gweithdy i ddarlledwyr er mwyn ymchwilio i'r offer cywain data newydd a datblygu arferion gweithio mwy cynhwysol. Bydd y digwyddiad yn rhoi hwb i'r pum mlynedd nesaf o fonitro amrywiaeth a chyfle cyfartal ym myd darlledu'r DU ac yn helpu i baratoi ar gyfer pontio'n llyfn o'n harferion gwaith gwreiddiol i'r rhai newydd.

Ein hadroddiad data amrywiaeth darlledwyr 2021-2022

Dywedon ni y byddem yn gohirio ein hadroddiad arferol ar gyfer cyfnod monitro'r gweithlu darlledwyr 2021-2022 er mwyn canolbwyntio ar ailwampio dulliau cywain data.  Fodd bynnag, gan ddilyn mewnbwn gan nifer o ddarlledwyr, fe gytunon ni i gyhoeddi data lefel uchaf a gyflwynwyd yn wirfoddol, er mwyn cynnal ffocws ar eu datblygiadau o flwyddyn i flwyddyn.

Cyflwynodd wyth darlledwr ddata, fu'n cyfrif am gyfran sylweddol o gyfanswm y gweithluoedd teledu a radio (BBC, Bauer, Global, Channel 4, ITV, Paramount, S4C a STV).

Manylir ar ein canfyddiadau yn ein hadroddiad data amrywiaeth darlledwyr 2021-2022.

Ein gwaith yn 2023

Nid yw cefnogi EDI o fewn y diwydiant darlledu yn dod i ben gyda'r newidiadau rydym wedi'u gwneud eleni.

Yn y Gwanwyn, gan ddefnyddio ein model cywain data newydd, byddwn yn ailddechrau ein cais arferol i ddarlledwyr i gyflwyno eu gwybodaeth gweithlu i ni.

Byddwn ni'n parhau i symbylu gweithredu ar y cyd ar draws y diwydiant er mwyn ymdrin â thangynrychiolaeth a helpu i hyrwyddo diwylliant cynhwysol sy'n cynnig cyfle cyfartal i bawb.

Un ffocws allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd hwyluso cydweithio rhwng darlledwyr er mwyn archwilio a sefydlu model arfer gorau o gwmpas cyfweliadau ac arolygon ymadael. Yn ein Hadolygiad pum mlynedd, bu i ni amlygu'r effaith bwysig y byddai cadw staff yn ei gael ar y diwydiant darlledu. Gallai pennu'r rhesymau pam fod gweithwyr wedi gwneud y penderfyniad i adael sefydliad, neu'r diwydiant yn gyfan gwbl, gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy.

At hynny, rydym hefyd yn ymchwilio i'r potensial am astudiaeth fwy hirdymor sy'n dadansoddi symudiad gweithwyr o fewn y diwydiant ac ymysg y rhai sy'n ei adael. Ynghyd â'n gwaith ar arolygon a chyfweliadau ymadael, byddai olrhain tymor hir yn helpu Ofcom a darlledwyr i ddeall rhesymau gweithwyr dros adael.  Byddai hefyd yn caniatáu i ddarlledwyr gydweithio ar strategaethau cadw, er mwyn helpu i dyfu diwydiant amrywiol, llwyddiannus a chynaliadwy yn y dyfodol.