11 Ionawr 2024

Gweithio'n fyd-eang i amddiffyn pobl ar lwyfannau rhannu fideos

Mae'r cwmnïau yr ydym yn eu rheoleiddio, a'r risgiau diogelwch yr ydym yn ceisio amddiffyn pobl rhagddynt, yn fyd-eang eu natur.

Er mwyn cadw oedolion a phlant y DU yn ddiogel wrth iddynt ddefnyddio llwyfannau rhannu fideo (VSPs), rydym yn gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda rheoleiddwyr mewn gwledydd eraill. Yma rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith rhyngwladol diweddar – gan helpu sicrhau bod pobl yn cael eu hamddiffyn yn well ar y VSPs y maent yn eu defnyddio, a’i gwneud hi'n haws i gwmnïau sy’n gweithredu ar draws ffiniau gydymffurfio â’r rheolau.

Rydym yn awr yn ein hail flwyddyn o reoleiddio VSPs sydd wedi'u sefydlu yn y DU. Nod y rheolau yw sicrhau bod gan VSPs fesurau priodol ac effeithiol ar waith i amddiffyn pobl rhag mathau penodol o gynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar eu gwasanaethau. Er ei fod yn gymharol newydd o hyd, mae'r fframwaith hwn eisoes yn helpu sicrhau newidiadau cadarnhaol ymhlith llwyfannau wedi'u rheoleiddio. Er enghraifft, mae wedi bod yn ffactor allweddol wrth i OnlyFans fabwysiadu offer sicrwydd oedran ar gyfer yr holl danysgrifwyr newydd y DU, wrth i TikTok sefydlu Pwyllgor Goruchwylio Diogelwch Ar-lein, ac wrth i Vimeo gyfyngu cynnwys aeddfed a heb ei raddio i danysgrifwyr.

Pwysigrwydd cydweithredu rhwng rheoleiddwyr rhyngwladol

Rydym bob amser wedi gwybod bod angen i ni gydweithredu â chymheiriaid rheoleiddio rhyngwladol i gyflawni nodau'r fframwaith VSP. Nid yw'r rhyngrwyd yn ystyried ffiniau, ac er ein bod ar hyn o bryd yn goruchwylio 22 o VSPs sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cael eu rheoleiddio yn y DU, rheoleiddwyr o wledydd Ewropeaidd eraill sy’n gyfrifol am reoleiddio rhai VSPs poblogaidd y mae defnyddwyr y DU yn eu cyrchu. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gydweithio'n agos â nhw i sicrhau bod oedolion a phlant y DU yn cael eu hamddiffyn.

Mae hefyd yn wir bod llawer o'r VSPs rydym yn eu goruchwylio'n weithredol ar draws ffiniau a'i fod yn ofynnol iddynt ddilyn llawer o reolau gwahanol ar draws Ewrop. Po fwyaf cyson y gall rheoleiddwyr fod o ran ein disgwyliadau o gwmnïau ac wrth nodi sut mae 'da' yn edrych, yr hawsaf fydd hi i'r cwmnïau hynny gydymffurfio â'n rheolau. Hefyd, mae llawer o'r llyfr rheolau VSP yn newydd ac yn arloesol. Mae gan bob rheoleiddiwr arbenigedd, profiad a thystiolaeth unigryw a all helpu siapio'r ffordd orau o weithredu'r rheolau hyn. Yn y pen draw, gall cydlynu ein hymdrechion, tra'n parchu pwerau a dyletswyddau penodol pob rheoleiddiwr, amddiffyn pobl yn well ar-lein ni waeth ble mae VSPs wedi'u lleoli.

Mae'r ffocws rhyngwladol hwn wedi bod yn rhan annatod o'n gwaith VSP ers y cychwyn cyntaf, ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi nodi rhai cerrig milltir pwysig.

Gweithio gyda rheoleiddwyr eraill

Ym mis Medi y llynedd, fe wnaethom gyflwyniad ffurfiol i ymgynghoriad cyhoeddus ein rheoleiddiwr cyfatebol yn Iwerddon, Comisiún na Meán (CnaM), i’w gefnogi i ddatblygu ei reolau sydd ar ddod ar gyfer VSPs yn Iwerddon. Mae ein cyflwyniad yn rhoi trosolwg o'r hyn rydym wedi'i ddysgu o reoleiddio VSPs a sut rydym yn ceisio cyflawni ein hamcanion rheoleiddio.  Byddwn yn parhau â'n cydweithrediad agos â CnaM i helpu amddiffyn pobl ar draws ein hawdurdodaethau rheoleiddio priodol.

Llunio ymagwedd ryngwladol gydlynol at sicrwydd oedran

Gwelwyd cynnydd hefyd ym mis Medi yn ein hymdrechion i sicrhau mwy o gydlyniad rhyngwladol wrth amddiffyn plant sy'n defnyddio VSPs. Yn rhan gyntaf yn 2023 fe wnaethom ymuno â rheoleiddwyr VSP eraill i greu'r Gweithgor Rhyngwladol ar Wirio Oedran, yr unig fforwm penodedig i reoleiddwyr gyfnewid gwybodaeth ac arferion gorau ynghylch eu hymagweddau at sicrwydd oedran. Cynhaliodd y grŵp ei gyfarfod chwarterol diweddaraf ym mis Rhagfyr, lle y bu i ni â’n cymheiriaid o bob rhan o Ewrop drafod sut y gellir defnyddio atebion sicrwydd oedran mewn ffordd gyson ac effeithiol i amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol ar-lein.

Rhannu tystiolaeth a phrofiad i lywio polisi diogelwch ar-lein byd-eang

Yn olaf, rydym bob amser wedi ystyried mai un o fanteision allweddol y fframwaith VSP yw y bydd yn ein helpu ni – a'r diwydiant – i baratoi ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein (DDA). Mae pontio i'r DDA yn arwyddocaol, ond mae'r hyn rydym yn ei ddysgu drwy'r drefn VSP wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod Ofcom yn paratoi ar gyfer llwyddiant. Bydd y profiad hwn hefyd yn helpu llywio trafodaethau byd-eang ynghylch sut y dylai rheoleiddwyr ar draws y byd ddefnyddio offer rheoleiddio diogelwch ar-lein datblygol, megis adrodd ar dryloywder a mesurau lliniaru cynnwys anghyfreithlon. Dyna oedd y cymhelliad i'n cyfranogiad diweddar yn y Gynhadledd Ymchwil Ymddiriedolaeth a Diogelwch yn San Francisco, lle y bu i arbenigwyr o’n tîm polisi VSP rannu mwy am ein rôl wrth adrodd am dryloywder a chynhaliwyd gweithdai ar wahanol ddulliau posibl gyda'r gymuned bolisi fyd-eang.

Edrych tua'r dyfodol

Mae'r ymdrechion rhyngwladol hyn yn helpu sicrhau bod y fframwaith VSP yn cyflawni ei addewid. Maent yn ategu ac yn cefnogi edafedd amrywiol eraill ein gwaith polisi, goruchwylio, gorfodi, a thryloywder VSP, megis ein dadansoddiadau diweddar o delerau ac amodau VSP, ein hymgysylltiad adeiladol â BitChute i wella ei alluoedd cymedroli cynnwys, neu ein rhaglen orfodi yn y sector VSP i oedolion. Mae gennym lawer mwy o ddiweddariadau a chyhoeddiadau ar y gweill yn y misoedd nesaf, a bydd y rhain yn adeiladu ar ein hadroddiad VSP diweddaraf, a gyhoeddwyd y mis diwethaf ac sy'n canolbwyntio ar sut y mae VSPs yn mynd i'r afael â diogelwch plant.

Er y bydd y fframwaith VSP yn dod yn rhan o'r drefn diogelwch ar-lein yn y pen draw, mae'n parhau i gynnig cyfleoedd dysgu sylweddol - nid yn unig i ni ond hefyd i'r gymuned ryngwladol wrth i ni i gyd weithio i wneud bywydau'n fwy diogel ar-lein. Byddwn yn trosoli’r gwersi hyn yn ein hymdrechion i wella cydlynu ac alinio rheoleiddio byd-eang, ochr yn ochr â’n cymheiriaid yn y Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang.

Related content