Perfformiad


Rhan o waith Ofcom yw dwyn y BBC i gyfrif mewn perthynas â'i hallbwn a’i gwasanaethau, gan ddefnyddio'r dulliau rheoleiddio amrywiol sydd ar gael i ni.

Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys:

  • pennu amodau rheoleiddio y mae modd eu gorfodi ar wasanaethau cyhoeddus y BBC yn y DU yn unol â thrwydded gweithredu'r BBC;
  • fframwaith mesur perfformiad newydd i asesu cydymffurfiad â’r amodau rheoleiddiol ac i archwilio perfformiad ehangach y BBC;
  • adroddiad blynyddol ar y mesurau perfformiad hyn a chydymffurfiad y BBC â'r amodau rheoleiddiol; ac
  • ac o leiaf dau adolygiad manwl o berfformiad y BBC yn ystod cyfnod y Siarter. Gallwn ni hefyd gynnal adolygiad ad hoc pan fyddwn yn teimlo bod hynny’n briodol.

Adolygiad o sut rydym yn rheoleiddio'r BBC

Wrth i ni ddod at hanner ffordd drwy gyfnod Siarter presennol y BBC, rydym wedi bod yn adolygu perfformiad y BBC a sut byddwn yn ei rheoleiddio yn y dyfodol. 

A ninnau wedi ymgynghori'n helaeth, rydym wedi cyhoeddi Trwydded Weithredu newydd wedi'i foderneiddio (PDF, 357.0 KB) ar gyfer y BBC. Mae'r ddrwydded, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2023, wedi'i dylunio i ddal y BBC i gyfrif yn gadarn ar gyflwyno ei chylch gwaith, ac ar yr un pryd ei galluogi i adddasu ac arloesi yn y ffordd y mae'n darparu cynnwys i wylwyr a gwrandawyr, y mae eu harferion yn newid yn sylweddol.

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein datganiad. Mae'r fersiwn  diweddaraf o'r drwydded ar gael ar ein tudalen Fframwaith Gweithredu'r BBC.

Fframwaith Mesur Perfformiad

Mae'r Fframwaith Mesur Perfformiad (PDF, 182.8 KB) (“FfMP”) yn disgrifio'r mesurau a'r metrigau a ddefnyddiwn i fonitro ac asesu perfformiad y BBC o ran hyrwyddo ei Dibenion Cyhoeddus a chyflawni ei Chenhadaeth. Bu i ni ddiweddaru'r FfMP ar 18 Gorffennaf 2023 gan ddilyn ymgynghoriad.